12 tîm sydd yna yn ein huwchgynghrair genedlaethol, ac mae rhai yn dadlau bod angen mwy…

Ydy’r Cymru Premier yn ddigon mawr?

Dyma gwestiwn sy’n aml yn cael ei drafod ar gaeau pêl-droed ar hyd a lled Cymru, ers i’r fformat presennol ar gyfer yr uwchgynghrair genedlaethol gael ei gyflwyno yn nhymor 2010-11.

Ffurfiwyd yr uwchgynghrair genedlaethol ym mis Hydref 1991 gan Alun Evans, Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar y pryd, gan ei fod yn credu bod dyfodol tîm pêl-droed rhyngwladol Cymru dan fygythiad heb gynghrair o’r fath.

Roedd yna 18 tîm yn cystadlu yn nhymor cyntaf yr uwchgynghrair – gyda Chwmbrân yn dod i’r brig – ac felly y buodd hi am bron i ddau ddegawd.

Yna daeth yr 18 o glybiau uwchgynghrair Cymru at ei gilydd ar 13 Ebrill 2008 a phleidleisio i gefnogi cynnig i ailstrwythuro’r gynghrair.

Wedyn ym mis Mehefin 2009 pleidleisiodd y clybiau i dderbyn cynnig amgen i leihau’r uwchgynghrair o 18 clwb i 12 ar gyfer tymor 2010–11 ymlaen.

Ac fel yna y mae hi wedi bod, er bod yna rai wedi grwgnach fod cael ond 12 tîm yn y brif adran braidd yn ddiflas.

Gyda’r strwythur presennol mae pob un o’r 12 clwb yn chwarae ei gilydd gartref ac oddi cartref, ac yna mae’r uwchgynghrair yn rhannu yn ddwy, gyda’r timau yn y chwe safle uchaf yn chwarae ei gilydd eto yn ail hanner y tymor.

Ac mae’r timau yn y chwe safle isaf yn gwneud yr un fath, gyda gemau i ddilyn ar ddiwedd y tymor i’r clybiau sydd ar y brig fedru cystadlu am le yn Ewrop.

Ond mae hyn yn golygu bod timau yn gallu wynebu ei gilydd bedair gwaith a mwy mewn un tymor.

Met Caerdydd v Hwlffordd

“Diflas”

Hoffai Cadeirydd Clwb Pêl-droed Caernarfon weld 16 o dimau yn cystadlu yn y Cymru Premier.

“Dw i’n teimlo bod strwythur y 12 tîm ar hyn o bryd – y top six a’r bottom six wedyn phase two – yn ddiflas,” meddai Paul Evans wrth Golwg.

“Rydan ni’n chwarae pum tîm bedair gwaith y tymor, mae pawb yn gwneud hynna dim ots os wyt ti yn y gwaelod neu’r top.

“Wedyn os wyt ti’n chwarae nhw yn y cwpanau, ti’n chwarae yn eu herbyn nhw bump, ella chwe gwaith.

“I fi fel cefnogwr, a dw i’n edrych arno fo fel cefnogwr, mae o’n ddiflas.

“Hefyd, dw i’n edrych arno fo fel Cadeirydd a dw i’n teimlo pe tawn i’n gefnogwr y baswn i’n meddwl ddwywaith weithiau cyn dod i gêm, oherwydd ein bod ni’n chwarae yn erbyn yr un tîm eto.

“Galla i fentro bod yno rhai floating supporters yn meddwl: ‘A’i ddim i wylio’r gêm yna, dw i wedi gweld nhw dwy, dair gwaith y tymor yma’.

“Felly dw i’n meddwl ei fod o’n amharu ychydig bach ar y giât – alla i ddim profi hynna ac alla i ddim ffeindio allan chwaith – ond mi faswn i’n meddwl ei fod o’n cael rhywfaint o ddylanwad.

“Os fysa yna 16 tîm yn y gynghrair, mi fasa ni’n chwarae 30 gêm yn lle 32, ond o leiaf wedyn ti’n chwarae pawb ddwywaith a ti’n gweld 15 tîm yn lle 11.

“Galla i fentro y basa hynna yn cynyddu’r crowds, ond eto alla i ddim profi hynny.”

‘Gemau ail-gyfle dal yn bosib’

A fyddai mwy o dimau yn y Cymru Premier yn arwain at fwy o gefnogwyr?

Dywed Paul Evans ei fod yn deall safbwynt y gynghrair, sef bod y fformat presennol yn creu cyffro gyda’r gemau ail-gyfle i fynd drwodd i Ewrop.

Ac mae’n dweud y byddai modd parhau i’w cynnal nhw gydag 16 tîm.

“I fi, dydi o ddim yn gwneud synnwyr i’w gadw fo’n 12,” meddai.

“Dw i’n deall y ddadl ei fod o’n creu cyffro yn y gynghrair efo’r play-offs, dw i’n deall hynna, bendant.

“Ond does yna ddim yn nadu ni rhag gwneud y play-offs beth bynnag, y cwbl ydi o ydi cael wyth gwaelod ac wyth top.

“Mi alli di dal creu sefyllfa lle mae gen ti play-offs – fel yna dw i’n ei weld o.

“Dw i hefyd wedi clywed y ddadl bod os gei di fwy o dimau y gwneith o leihau’r safon… wel mae gen i fel Cadeirydd Caernarfon esiampl dda i brofi bod o ddim [yn wir], oherwydd rydan ni wedi dod i fyny – hwn ydi ein pedwerydd tymor ni [yn yr uwchgynghrair] – ar ôl blynyddoedd yn tier two, a dyda ni heb leihau’r safon.

“Mae Penybont wedi dod i fyny ddau dymor yn ôl a gwneud yn dda yn eu tymor cyntaf, top six. Roedd Hwlffordd yn seithfed y tymor diwethaf.

“Felly dydi’r ddadl yna ddim yn dal dŵr gyn belled ag ydw i yn y cwestiwn.”

“Cynnal safonau”

Mae Nic Parry yn sylwebu ar gemau Uwchgynghrair Cymru ers degawdau, ac o blaid cadw’r niferoedd fel ag y maen nhw.

Dywedodd wrth Golwg ei fod wedi sylwi bod mwy o bobol yn cymryd diddordeb yn y gêm ddomestig yng Nghymru ers y pandemig.

Fodd bynnag, nid yw’r sylwebydd am weld rhagor o dimau yn chwarae yn y Cymru Premier.

“Mater o gynnal safonau ydi o,” meddai Nic Parry.

“Hyd yn oed heddiw, rydan ni’n gweld bod cynghrair mor fechan â hon yn golygu bod yno dipyn o begynnu.

“Dydi o ddim yn ofnadwy, ond mae Derwyddon Cefn [sy’n olaf yn y Cymru Premier gydag un pwynt ar hyn o bryd] yn dangos beth sy’n gallu digwydd a dydyn ni ddim eisiau hynny yn ein cynghrair.

“Mae o’n tynnu oddi wrth beth ydi stori fawr Uwchgynghrair Cymru sef bod y safon yn codi, mae hi’n mynd yn fwy cystadleuol bob tymor… mae yna fwy o chwaraewyr oedd yn arfer bod yn broffesiynol, chwaraewyr rhyngwladol yn dod i ymuno â hi.

“Am y tro cyntaf mae hi’n gynghrair sydd â hygrededd go-iawn ac mi ddylia hi fod yn anodd cael mewn i’r Uwchgynghrair.

“Dw i’n meddwl bod y timau sydd yno just about yn sicrhau bod y safon yn gyffredinol.

“Mae yna un neu ddau o eithriadau a rydan ni’n gweld hynny bob blwyddyn.

“Yn sicr un o anfanteision cael cynghrair fechan ydi bod timau yn chwarae ei gilydd yn rhy aml.

“Ond mae’r cynllun o 12 tîm wedi bod yn syniad da gan y Gymdeithas achos mae o’n rhoi rhywbeth i bawb ymladd amdano fo ymhell i mewn i’r tymor.

“Fel arall does yna ddim pwynt i ail hanner y tymor bron iawn, ond mae yna hyd yn oed rywbeth i’r chwech isaf anelu amdano fo .

“Felly mae yna anfanteision [o gael 12 tîm], oes. Ond mae yna fanteision hefyd a dw i ddim yn meddwl y byddet ti’n cael y rhan fwyaf o gadeiryddion, neu hyd yn oed nifer fechan o gadeiryddion yr Uwchgynghrair, yn galw am fwy o dimau.”