O ralïau ac adroddiadau yn y Wasg a’r cyfryngau, i areithiau ar lawr siambr y Senedd, mae’r ddadl dros ail gartrefi wedi poethi dros y misoedd diwethaf, gydag ymgyrchwyr a rhai gwleidyddion yn ei ddisgrifio’n fater o argyfwng.

O arfordir Gwŷr i Ben Llŷn, Ynys Môn a Chonwy, yr un yw’r gri gan drigolion lleol, sef bod ‘Tai Haf yn Lladd Cymunedau’ drwy brisio pobl ifanc allan o’u milltir sgwâr.