Fel ffrae, ro’dd hi’n cynnwys rhai o fy hoff bethau – iaith, ffwtbol, a John Hartson ei hun.

Fodd bynnag, ro’dd hi hefyd yn cynnwys fy nghas bethau – cywiro iaith, a Twitter pile-on.

Ry’n ni’n byw yn oes y Twitter pile-on – a ma fe’n ffenomenon reit drist rili.

I fi fod yn glir be’ dw i’n ei olygu: Twitter pile-on yw llu o bobol yn neidio ar drydariad gan un person neu grŵp gan feirniadu’r neges honno’n ddi-ben-draw.