Efallai y buodd hi’n wythnos fawr i’r Ceidwadwyr ym Manceinion, ond buodd hi’n wythnos annisgwyl o fawr i Lywodraeth Lafur Cymru hefyd.
Llwyddodd Mark Drakeford, o drwch blewyn, i lusgo’i bolisi dros gyflwyno pàs Covid drwy’r Senedd.
Cilwenu mewn anghrediniaeth wnaeth Mark Drakeford ac Eluned Morgan wrth i fochau’r ddau gochi ar y fainc flaen mewn rhyddhad… ddim yn ddiwrnod ffôl o gwbl yn y swyddfa.
Roedd clician cyfrifiaduron gohebwyr i’w clywed ledled y wlad yn prysur addasu erthyglau a sgriptiau yn dilyn y canlyniad munud olaf.
Bu’r gwybodusion gwleidyddol ar Twitter hefyd yn gegrwth am ychydig eiliadau.
Ni fedrodd AoS Gwlad y Medra, Rhun ap Iorwerth, na Phlaid Cymru gefnogi’r mesur a hynny wedi trafod mewnol yn y Blaid ers cryn amser
Ond un enw oedd ar wefusau pob aelod y noson sobreiddiol honno, Gareth Davies, AoS Ceidwadol Dyffryn Clwyd a fethodd ymuno â’r bleidlais yn rhithiol o gynhadledd ei blaid ym Manceinion.
Ac efallai bod colli’r bleidlais wedi achosi pen tost iddo, am sawl rheswm.
Cafodd Mr Davies nifer o gyfleoedd i gysylltu â’r Llywydd, gydag Elin Jones yn rhoi ei rhif ffôn i’r aelod er mwyn pleidleisio ar lafar.
Fe wnaeth y Llywydd hyd yn oed osod amserydd 30 eiliad ar ei ffôn gan ddweud wrth brif chwip y grŵp Ceidwadol y byddai’n ailddechrau’r sesiwn pe na bai wedi galw yn y cyfnod hwnnw.
Gwnaeth yr AoS Ceidwadol Darren Millar floeddio mewn protest ar draws y siambr (dim byd newydd) gan fynnu nad oedd yr aelod dros Ddyffryn Clwyd yn gallu ymuno â’r sesiwn yn rhithiol.
Boris Brydeiniwr yn bola-heulo
Gyda phrisiau tanwydd ar gynnydd, prinder gyrwyr lorïau, a’r Deyrnas Unedig yn fwy rhanedig nag erioed, pwy all feio rhywun am fynd i deithio dramor, ymhell bell o’r Brydain lwm sydd ohoni?
Mae’r temtasiwn yn ormod i rai, ac mae’n debyg fod traethau euraidd Marbella wedi croesawu’r dyn wrth y llyw yn Rhif 10 Downing Street.
Ymddengys nad yw Chequers, plasty 1,000 o aceri’r Prif Weinidog, yn ddigon pell i Boris Johnson ddianc rhag sŵn a sgrech San Steffan.
Gyda’r brif gadair yn wag o amgylch bwrdd y cabinet, dydy gweinidogion ychwaith ddim yn gwybod yn iawn ble mae eu harweinydd.
Ond wrth i Boris Johnson dorheulo yn y Costa Del Sol, nid oes Gweinidog Dros Ddatganoli yn ei gabinet, mis cyfan ers adrefniad ei gabinet.
Ers symud Chloe Smith, y cyn-weinidog dros Ddatganoli a’r Cyfansoddiad i’r Adran Waith a Phensiynau, gwag yw’r swydd yn Whitehall.
Ac er efallai nad yw Gweinidog o’r fath yn mynd i sicrhau gwellhad dros nos i gyflwr yr Undeb, teg dweud nad yw torheulo ar draethau Sbaen am helpu achos Boris Brydeiniwr ychwaith.