Mi fydd y bobol sydd wedi colli eu £20 ychwanegol o Gredyd Cynhwysol yn dechrau teimlo’r effaith. Ond, yn ôl Victoria Winckler ar bevanfoundation.org, mae angen holi o ddifri am y system gredyd i gyd …

“Mae Credyd Cynhwysol yn achosi caledi yn fwriadol. Ers amser hir, mae llawer o bobol wedi cefnogi egwyddor y CC, wrth gynnig diwygiadau fel rhoi diwedd ar y cyfnod aros pum wythnos a chodi’r nenfwd budd-dal. Ond mae’r rhestr o ddiwygiadau sydd eu hangen i wneud Credyd Cynhwysol yn ffordd deg o gefnogi pobol sydd mewn swyddi cyflog-isel neu sy’n methu â gweitho yn un hir iawn. Mae yna ddadl a oes modd ei drwsio.”

Rhybudd oedd gan Dafydd Wigley ar thenational.wales hefyd – rhybudd fod chwyddiant ar y ffordd ac y bydd y canlyniadau’n galed …

“Pan fydd cyfraddau llog yn codi eto – wrth i’r llywodraeth argraffu arian a thanio chwyddiant – mi fydd pobol ar forgeisi mawr yn cael eu croeshoelio. Mae fy nghenhedlaeth i’n cofio cyfraddau morgais o 15% tua 1990 a’r holl dai a gafodd eu hailfeddiannu wedyn. Llwyddodd araith gynhadledd ysgafala’r Prif Weinidog [Boris Johnson] i ennill y gymeradwyaeth yr oedd yn ei hawchu. Ond efallai y bydd y bobol oedd yn ei gymeradwyo’n teimlo’n wahanol iawn pan aiff ei addewidion yn ddarnau.”

Rhybudd dau wleidydd arall o Blaid Cymru, Liz Saville Roberts a Rhys ab Owen, oedd fod Boris wrthi yn defnyddio ystrywiau cyfreithlon i gael cydsyniad Senedd Cymru i ildio grym tra bod y llywodraeth Lafur yn methu ag ymladd hynny.

“Mae Llywodraeth San Steffan yn tanseilio ein setliad datganoli… yn y bedwaredd Senedd, roedd yna wyth Mesur o San Steffan oedd angen cydsyniad; nawr, yn y chweched Senedd, mae yna eisoes 14 Mesur. Mae’n digwydd. Nid cyd-ddigwydd. Mae’n gynllun gan y Llywodraeth Geidwadol i dynnnu grymoedd oddi ar y Senedd yma yn dawel ond cyson ac, fel gwŷr Caerdroea, mae Llywodraeth Cymru mewn peryg o syrthio i fagl Boris Johnson.” (nation.cymru)

Er gwaetha’ hyn i gyd, mae Boris yn ymddangos fel petai’n boblogaidd o hyd, a John Dixon sy’n ceisio esbonio …

“Mae llawer o’r hyn sy’n cael ei alw’n ddadansoddi gwleidyddol yn tybio, ar ryw lefel, bod pleidleiswyr yn pwyso a mesur geiriau a gweithredoedd y chwaraewyr yn ofalus cyn penderfynu pa unigolion neu bleidiau i’w cefnogi, ac y bydd barn yn newid wrth i’r celwyddau a’r aneffeithiolrwydd ddod yn fwy a mwy amlwg. Mae yna ddryswch… o weld cyn lleied o effaith y mae gwendidau cymeriad amlwg y Prif Weinidog yn eu cael ar farn. Ond mae’r dybiaeth sylfaenol yn anghywir. Dydi’r rhan fwya’ o bleidleisiau ddim yn cael eu bwrw ar sail dadansoddiad rhesymegol o gwbl ac mae’r rhan fwya’ o wleidyddion… yn llwyr ymwybodol o hynny… mae ffactorau fel argraff gyffredinol, hanes teuluol a hunaniaeth genedlaethol yn cyfri llawer mwy.” (borthlas.blogspot.com)