Dychwelais o Brâg y penwythnos diwethaf i ddarganfod John Hartson yn trendio ar Twitter Cymraeg. Nifer yn clodfori’r cawr mewn ymateb i drydariad gan Rob Harries. Gan gyfeirio at ddarllediad Sgorio o gêm Cymru yn y Weriniaeth Tsiec awgrymodd gohebydd Media Wales fod “yn llythrennol” hanner geiriau Hartson yn Saesneg, cyn cwestiynu a ellid fod wedi cael siaradwr Cymraeg i wneud y gwaith.