Erbyn hyn mae salwch meddwl yn cael ei drin â’r un statws â’r meysydd cydraddoldeb eraill. Mae’r cyfryngau (yn enwedig y BBC) yn frith o raglenni sy’n trin a thrafod y maes. Oll yn ceisio lleihau’r stigma sy’n effeithio’r rheini sy’n sâl – ac yn ein hannog i fod yn fwy agored – a chwilio am gymorth yn hytrach na chuddio’n problemau.