Enwi car trydan newydd Dyffryn Ogwen
‘E-Fan’ yw’r enw sydd wedi ei roi ar gar trydan newydd Dyffryn Ogwen, sy’n rhan o brosiect Dyffryn Gwyrdd yr ardal.
Enwyd dau gerbyd arall yn Car-nedd a Try-Fan, gan wneud defnydd o enwau mynyddoedd lleol.
Cafodd enw’r car newydd ei gyhoeddi mewn seremoni yng nghwmni disgyblion Ysgol Llanllechid. Mwy o’r hanes ar Ogwen360.
Medina a Llaeth Teulu Jenkins yn cipio’r prif wobrau yn Aberystwyth
Bwyty Medina enillodd y brif wobr yng Ngwobrau Aber, y gwobrau cyntaf, yr wythnos ddiwethaf. Mae’r gwobrau, sy’n cael eu trefnu gan Fenter Aberystwyth, yn gyfle i gydnabod gwaith caled a chyfraniadau eithriadol unigolion, sefydliadau a busnesau yn ardal Aberystwyth.
Cipiodd y cwmni newydd sy’n gwerthu cynnyrch yn syth o’r fferm, Llaeth Teulu Jenkins, ddwy wobr, am ragori wrth hyrwyddo’r Gymraeg a gweithredu’n ecogyfeillgar.
Mae enillwyr y naw categori wedi’u cyhoeddi gan Kerry Ferguson ar BroAber360.
Menter Tafarn y Vale yn codi momentwm
Fe ymddangosodd bar pop-yp mewn sawl pentref yn Nyffryn Aeron yn ddiweddar, i rannu gwybodaeth am sut y gallai’r gymuned gyfan brynu tafarn leol.
Mae tafarn y Vale yn Ystrad Aeron ar werth, a gobaith y fenter gydweithredol sydd newydd ei sefydlu’n lleol yw prynu’r dafarn a’i rhedeg er budd y gymuned.
Er mai dim ond te a choffi oedd yn cael eu gweini o’r ‘bar’ ar y diwrnod (er mawr siom i rai!) fe gafwyd ymateb da i’r ymgyrch, a’r gobaith yw agor y cynnig i brynu siârs yn nes ymlaen yn y mis.
Mwy ar wefan Bro360.
Menter Tafarn y Vale yn codi momentwm
Straeon bro poblogaidd yr wythnos
- Cylch Meithrin Tregaron yn diolch i Miss Eleri, gan Enfys Hatcher Davies ar Caron360
- Darlith am Dregaron, gan Enfys Hatcher Davies ar Caron360
- Dechrau Cangen YesCymru yn Llanbed, gan Ben Baddeley ar Clonc360