Yn ôl y blogwyr, mae’r arweinydd Llafur, Keir Starmer, wedi dechrau gwneud ei ran yn y frwydr tros annibyniaeth … yn anfwriadol, wrth gwrs. Dyna’r ymateb i’w araith ‘fawr’ yng nghynhadledd y blaid, pan geisiodd ddadlau tros yr Undeb …
“Pa drafodaeth synhwyrol… a arweiniodd at y syniad y dylai’r addewidion mawr… yn yr araith… fod am bolisïau i Loegr yn unig ar faterion fel iechyd ac addysg?… Efallai, yn Lloegr, fod galw eu hunain yn ‘wladgarwyr’ a lapio’u hunain ym maner yr undeb yn edrych fel ymgais od… i gystadlu am bleidlais cenedlaetholwyr Seisnig… ond yn yr Alban (ac yng Nghymru hefyd i raddau llai) mae’n fwy tebyg ei fod yn ymddangos yn glustfyddar… Gyda ‘ffrindiau’ fel y rhain, does fawr angen gelynion ar yr undeb. Diwrnod da arall i’r mudiad annibyniaeth.” (John Dixon ar borthlas.blogspot.com)
I rai, mae’r broblem yn mynd yn ddyfnach …
“Mae’n ymddangos nad oes braidd ddim ystyriaeth wedi ei roi i pam fod Llafur yng Nghymru, ar ei phen ei hun yn y Deyrnas Unedig, wedi mynd yn groes i duedd etholiadau mis Mai. Os bu ystyriaeth, doedd dim tystiolaeth yn yr araith. Ac, yn y ffordd honno, mae Keir Starmer ac arweinwyr Llafur y DU yn symptom o’r union fath o feddylfryd bell, hunan-foddhaus, Llundain-ganolog a bwriadol anwybodus sy’n gyrru annibyniaeth yng Nghymru a’r Alban.” (Ifan Morgan Jones ar nation.cymru)
I un blogiwr, roedd yna dystiolaeth o hynny yn araith Prif Weinidog Cymru i’r gynhadledd …
“Mae ffynonellau o fewn Llafur Cymru wedi bod yn briffio ynghylch eu hanesmwythyd oherwydd eu bod yn teimlo nad yw’r blaid yng Nghymru yn cael y parch na’r gydnabyddiaeth y mae’n ei haeddu am ennill etholiadau tra bod cydweithwyr yn San Steffan yn stryffaglu. O roi hyn i gyd at ei gilydd, mae’n ymddangos nad yw Mark Drakeford a Keir Starmer mewn cytgord llwyr. Ydi Drakeford wedi difrïo Starmer? Do, dw i’n credu.” (Gareth Ceidiog Hughes ar nation.cymru)
I Dylan Moore ar thenational.wales, roedd yna ystyr dyfnach hefyd i un o ddigwyddiadau mawr eraill yr wythnos …
“Cafodd cerflun Betty Campbell [y brifathrawes ddu o Gaerdydd] ei gynllunio i fod yn deyrnged i Gymraes eithriadol a dylai’r sylw fod ar ei chymeriad, ei llwyddiannau a’i hysbrydoliaeth. Ond tan ein bod yn byw mewn cenedl gyda gwir gyfiawnder hiliol, bydd y gofadail yn bownd o fod hefyd yn ffordd bwerus o’n hatgoffa pa mor bell y mae’n rhaid i ni fynd eto…”
Erbyn dechrau’r wythnos, roedd bocs Pandora wedi’i agor hefyd a Frank Little yn flin fod llywodraethau’n gwrthod gweithredu i gau bylchau yn y gyfraith yn achos cyfoethogion dylanwadol …
“Mae’r llywodraeth yma [yn Llundain], fel llywodraeth Blair, yn hoff o wleidyddiaeth sioe, yn creu cyfreithiau lle mae atebion yn bod eisoes dan y gyfraith gyffredin… Enghraifft amlwg yw eu hymateb byrbwyll i brotestiadau Insulate Britain. Dydyn nhw ddim mor barod i lenwi bwlch cyfreithiol sydd wedi ei nodi, nid yn unig gan ymgyrchwyr tros dryloywder gwleidyddol, ond hefyd gan denantiaid sydd wedi dioddef oherwydd endidau di-wyneb gyda chyfeiriadau mewn llochesi treth.” (ffrancsais.blogspot.com)