Bu croeso brwd i EP newydd gan gantores sy’n hoffi canu am y traeth a’r tonnau a’r môr a’i chwedlau…

Dros yr Haf fe wnaeth Eve Goodman ryddhau casgliad o bump o ganeuon o’r enw Wave Upon Wave.

Caneuon serch i’r môr sydd ganddi ar y casgliad, ac maen nhw yn hudolus, hiraethus a hyfryd.

Gyda chaneuon tyner acwstig fel hyn, mae hi’n helpu fod gan Eve lais canu swynol, wrth reswm.