Mae’r blogwyr yn cynnig dau esboniad am y trafodaethau rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn y Senedd. Ifan Morgan Jones, er enghraifft, yn egluro cymhellion Llafur …
“Pam fyddai Llafur Cymru eisio cytundeb o’r fath pan fyddai bargen gydag un Aelod o’r Senedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn rhoi mwyafrif syml iddyn nhw? Wel, efallai oherwydd y bydd rhaid i ddeddfwriaeth i ddiwygio’r Senedd gael uwch-fwyafrif o 40 aelod. Ar hyn o bryd 30 sydd gan Lafur.
Mae Llafur a Phlaid Cymru ill dwy’n frwd tros Senedd fwy gyda chynnydd yn nifer yr aelodau i 90 neu hyd yn oed 100. Roedd hyn i’w weld yn symudiad mentrus cyn etholiad y Senedd, gyda bygythiad o gynnydd mawr i blaid Geidwadol sy’n amheus o ddatganoli neu hyd yn oed o blaid dileu’r Cynulliad.
Yn lle hynny, cafodd yr etholiad ei weld yn gefnogaeth i ddatganoli… gyda’r mandad newydd i ddatganoli a Llafur a Phlaid Cymru’n berchen ar 43 o 60 seddi’r Senedd, mi allan nhw yn y bôn gyflwyno eu dewis o ddiwygiadau.” (nation.cymru)
Draw ar thenational.wales, roedd Theo Davies-Lewis yn gweld ystyr dyfnach i Blaid Cymru yn y trafodaethau …
“Fe allen ni ofyn, pam fod Plaid Cymru, sydd i fod yn ddewis arall ar gyfer llywodraeth, yn credu y gall weithredu’n effeithiol tros y pum mlynedd nesa’ wedi ei chlymu at Lafur Cymru…
Dyw rhai cenedlaetholwyr ddim yn hapus. A bod yn blaen, maen nhw wedi cael llond bol ar fod yn bwdl i Lafur. Gwaetha’r modd, dyw’r bobol hynny ddim wedi sylweddoli eto mai dyna rôl y blaid yn y Gymru fodern… dyw Plaid Cymru’n fawr mwy na grŵp pwyso. Dyw hynny ddim yn fater o embaras. Yn hytrach, mae’n dangos grym ymenyddol a diwylliannol symudiad sydd wedi bod yn anhygoel o effeithiol trwy gydol hanes modern… boed hynny trwy sbarduno ymateb byrbwyll gan weinidogion blinedig yng Nghaerdydd neu trwy apelio at y cenedlaetholwyr meddal sydd bellach yn llenwi plaid y Prif Weinidog at yr ymylon.”
A be’ am y drydedd blaid fawr? Mi drodd John Dixon at ystyried y newidiadau yng nghabinet Boris Johnson … a’r diffyg newid o ran Cymru …
“Sawl blwyddyn yn ôl, disgrifiad Theresa May o’i phlaid oedd ‘the nasty party’… mae Boris Johnson fel petai’n ei weld… yn fodel ar gyfer gweithredu. Mae’r Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, sy’n haeddiannol ymhell ar y blaen o ran bod y mwya’ anghynnes, yn cadw ei lle gyda’r Prif Weinidog yn ei chanmol i’r cymylau ac yn ei hannog i fod yn fwy anghynnes fyth…
Yn nes at adref, roedd rhai yn disgwyl i Ysgrifennydd Cymru [Simon Hart] fod ymhlith y collwyr ond, yn ôl y disgrifiad, llwyddodd i ddal gafael gerfydd ei ewinedd yn ei swydd… Efallai ei fod yn fwy anghynnes nag y mae’n ymddangos… ar y llaw arall, efallai nad oedd Johnson yn gallu dod o hyd i AS Ceidwadol Cymreig y mae’n ei ystyried yn fwy anghynnes fyth er mwyn ei ddisodli. Ond yr esboniad mwya’ tebygol yw fod Johnson jyst wedi anghofio ei fod yno…” (borthlas.blogspot.com)