Dyma’r casgliad gorau o weddïau a fu erioed, yn ôl cyhoeddwr cyfrol newydd…

Yn dawel bach yng nghanol y pandemig ym mis Awst y llynedd, bu farw’r Parchedig Elfed ap Nefydd Roberts, un o’r gewri byd crefyddol yng Nghymru.

Roedd yn un o weinidogion amlycaf Eglwys Bresbyteraidd Cymru, yn awdur toreithiog ac yn ddarlledwr poblogaidd ar y radio a theledu. Ac, am nifer o ddegawdau, bu’n cyfrannu’n rheolaidd i’r eitem foreol ar Radio Cymru, ‘Munud i Feddwl’, lle mae gwestai yn athronyddu am bwnc amserol.

Nawr, flwyddyn wedi ei farwolaeth, mae Cyhoeddiadau’r Gair wedi cyhoeddi cyfrol o’r myfyrdodau radio yma, Gwerth y Funud Dawel.

­­­­“Ddaru Elfed gysylltu gyda ni ryw flwyddyn cyn iddo fe ein gadael ni,” meddai’r Parchedig Aled Davies o Gyhoeddiadau’r Gair, y wasg sydd wedi bod yn cyhoeddi llyfrau’r awdur ers 20 mlynedd, “a dweud bod ganddo fe’r bocs yma lle’r oedd wedi lluchio’r holl fyfyrdodau ac yn ei ffordd yn ei hun yn dweud: ‘Os oes yna werth iddyn nhw, cyhoedda nhw. Os nad oes, i’r bin â nhw!’

“Mae’r gyfrol yn gofnod o hanes. Mae’r myfyrdodau yn eu trefn dros 40 mlynedd ac mae e’n atgoffa rhywun o rai o’r digwyddiadau mawr, a sylwebaeth gall ar y digwyddiad.”

Ynghyd â’r myfyrdodau radio, mae Cyhoeddiadau’r Gair hefyd yn cyhoeddi Cymer fy Munudau, casgliad helaeth o’i weddïau.

Bu Elfed ap Nefydd Roberts yn weinidog uchel-ei-barch yn Eglwysi Llanelli a Thŵr Gwyn ym Mangor cyn cael ei benodi yn brifathro ar y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth yn 1980. Ar ôl ymddeol yn 1997, bu’n weinidog bugeiliol yng Nghapel y Groes, Wrecsam a Chapel y Berthen, Licswm. Cyhoeddodd dros 25 o lyfrau crefyddol a gweddi. Roedd hefyd yn golofnydd ‘Ysgol Sul’ yn Y Cymro.

Dathlu cyhoeddi’r cyfrolau yng nghapel Mynydd Seion, Abergele dros y penwythnos.
(O’r chwith): Eiddwen Jones (gweddw Elfed ap Nefyn Roberts) Parch. Brian Huw Jones (gweinidog capel Mynydd Seion);
Elen Mai Nefydd Roberts a Gwen Nefydd; (cefn) Parch. Aled Davies, Cyhoeddiadau’r Gair; Siriol Elin; Dylan Jones; Lili Nefydd; Jonathan Nefydd; Holly Nefydd; Parch. Ifor ap Gwilym; Parch. Trefor Lewis (golygydd).

“Dyma, siŵr o fod, y casgliad gorau o weddïau Cymraeg sydd wedi cael eu cyhoeddi,” meddai Aled Davies. “Maen nhw i gyd wedi eu gosod â meddwl mawr ynddyn nhw. Mae hi’n gyfrol rydan ni fel gwasg yn hynod falch o gael ei chyhoeddi.

“Mae yn gasgliad o dros hanner canrif o’i gynnyrch e mewn gwahanol gylchgronau, llyfrau, ac rydan ni wedi dod â’r cwbl at ei gilydd. Pan oedd Elfed ei hun yn creu casgliadau, roedd yna gymysgedd o rai gan Elfed, rhai gan eraill, rhai wedi eu cyfieithu. Ond beth sy’n unigryw am y gyfrol yma yw bod pob un gair gan Elfed ei hun.”

Dechreuodd Aled Davies weithio gyda’r pregethwr adnabyddus 30 mlynedd yn ôl, pan oedd yn ymwneud â’r cyfnodolyn, Cristion.

“Roedd Elfed yn un o’r bobol fwyaf gwylaidd, gostyngedig a di-ffws,” meddai. “Roedd e’n cynhyrchu colofn weddi bob mis, ‘Te Deum’. Dw i’n cofio dweud wrtho fe, ‘dw i’n synnu Elfed mae pob un weddi yn disgyn i’w le yn daclus ar y dudalen’. Ac medde fe, ‘wel, ie, fachgen, 74 lein ynde!’

“Roedd e’n gweithio’r pethe yma allan yn drefnus, a dyna sy’n wir am ei weddïau i gyd. Mae rhyw batrwm, rhyw rythm, rhyw fydr iddyn nhw. Yn aml iawn, pan rydan ni’n gofyn i rywun sgrifennu erthygl, maen nhw jyst yn sgrifennu beth bynnag sy’n dod allan, dim y maint cywir, a ddim wedi ei strwythuro. Roedd Elfed yn gallu strwythuro mewn ffordd arbennig iawn.”

Nid dwy gyfrol mae yn ei chyhoeddi ganddo, fodd bynnag, ond tair – y drydedd yw Derbyn a Dilyn Iesu, cwrs paratoi gan Elfed ap Nefydd i gymunwyr ifanc. “Yma mae llais Elfed yn parhau i hyfforddi’r ifanc,” meddai’r cyhoeddwr. “Wrth gwrs, mi dreuliodd flynyddoedd yn hyfforddi mewn coleg diwinyddol ac wedyn yn hyfforddi pobol ifanc mewn eglwysi.”

Dweud ei ddweud ar y radio

Mae hi’n amlwg o’r gyfrol Gwerth y Funud Dawel fod Elfed ap Nefydd Roberts yn fwy na pharod i ddweud ei ddweud ar Gymru a’r byd ar Radio Cymru.

Yn ei eitem radio ar 14 Awst 2005, mewn ymateb i sylw gan y bardd Benjamin Zephaniah y dylai plant yn Lloegr gael y cyfle i ddysgu’r Gymraeg, dywedodd:

‘Yr ofn sydd gen i yw ein bod ni’n magu cenhedlaeth o Gymry ifanc, rhugl eu Cymraeg, ond heb rithyn o ddiddordeb ganddyn nhw yn Ann Griffiths, na Pantycelyn, na William Morgan, na’r ffydd oedd yn eu hysbrydoli. Gobeithio nad ydy hi ddim yn rhy hwyr iddyn nhw, a Chymry hŷn na nhw o ran hynny, i droi’n ôl i ailddarganfod cynnwys ysbrydol cyfoethog ein hetifeddiaeth.’

Dyma ei eiriau ar 10 Ionawr 2013, wrth drafod Malala Yousafzai, y ferch a gafodd ei saethu gan y Taliban ar y ffordd i’r ysgol:

‘Mae’n amhosibl i ni ddeall agwedd mor gul a gormesol sy’n barod i ladd merched ifanc yn hytrach na chaniatáu iddynt fynd i’r ysgol. Ddiwrnod ynghynt cyhoeddwyd bod gostyngiad o dros 11% yn nifer y rhai yng Nghymru sy’n ceisio lle mewn prifysgolion, a hynny am fod y costau’n rhy uchel. Ond mae addysg yn hawl dynol sylfaenol gan fod ein twf a’n datblygiad fel pobl yn dibynnu ar gael ein dysgu, ar dderbyn gwybodaeth a’n helpu i ddeall y byd o’n cwmpas…”

Agos-atoch

Roedd yn ddyn ffraeth a deallus – bu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor a Choleg Westminster, Caergrawnt – ac yn ddyn addfwyn, agos-atoch. Yn ei fyfyrdodau radio, mae’n cyfeirio at ei fywyd personol o dro i dro, fel ei gyfeillgarwch â’r ffotograffydd Philip Jones Griffiths, y bu ei luniau’n rhan allweddol o ddod â’r rhyfel Fietnam i ben.

Roedd y ddau yn yr un dosbarth yn Ysgol Ramadeg Llanelwy, ac yn gymdogion yn Rhuddlan. Dyma ran o’i eitem radio ar 21 Awst 2005, ar ôl iddo fod yn ymweld ag arddangosfa am y ffotograffydd:

‘Roedd yna ddau beth arall yn tynnu fy sylw yn yr arddangosfa, sef ei gamera cyntaf – hen gamera bocs Brownie (ac mae gen i gof da o hwnnw), a nodyn yn ei lawysgrif ei hun o’r hyn a ddywedodd un o flaenoriaid ei gapel yn Rhuddlan wrtho, ‘Beth bynnag wnei di mewn bywyd Boyo, trïa adael dy farc er gwell ar yr hen fyd yma!’ Fe wnaeth hynny trwy ddefnyddio ei gamera i ddwysbigo, i herio, i ddangos creulonderau dyn at gyd-ddyn, ac i alw am heddwch ar y ddaear…’

“Roedd e’n barod i ddweud ei ddweud,” meddai Aled Davies. “Mae’r gyfrol yn gofnod o hanes, a sylwebaeth, nid orgrefyddol, moesol ar y byd. Roedd wedi eu sgrifennu ar gyfer cynulleidfa radio heb fod yn orymwthiol yn grefyddol. Mae’r neges yno yr un fath.”

Siarad â’i bobol

Yn ei weddïau, roedd Elfed ap Nefydd Roberts yn sgrifennwr a fyddai’n rhannu ei neges mewn ffordd syml a dealladwy, yn ôl Aled Davies.

O bori drwy’r gyfrol o weddïau, Cymer fy Munudau, mae ei ddyngarwch yn amlwg drwodd a thro, yn ceisio annog tosturi a charedigrwydd at eraill. Yn y weddi, ‘Doniau’, mae’n dweud: ‘Rhoddaist inni’r ddawn i garu: i ymserchu yn ein hanwyliaid, i feithrin cyfeillgarwch, i estyn llaw i’r anghenus, i ymateb mewn cariad i’th gariad di…’

Yn y weddi ‘Ffordd Cariad Crist’, mae’n dweud: Maddau bob tuedd sydd ynom i’n canmol ein hunain ac i geisio clod gan eraill; helpa ni yn hytrach i roi lles eraill o flaen ein dymuniadau’n hunain…’

“I leygwyr roedd Elfed yn sgrifennu, mewn gwirionedd,” meddai Aled Davies. “Mae’r gweddïau yn bethau roedd pobol yn gallu eu defnyddio mewn gwasanaeth a chwrdd gweddi. Os nad oes rhywun yn y capel ar ddydd Sul, mae pobol wedi arfer gafael yn un o lyfrau Elfed i’w helpu nhw i gynnal oedfa.

“Doedd e ddim yn bregethwrol ac ymosodol. Roedd rhywbeth yn dyner ac yn addfwyn yn ei lais e. Fyddai e byth yn beirniadu. Mae’r gweddïau yn agos iawn at rywun – tydyn nhw ddim yn rhai sy’n defnyddio geiriau er mwyn defnyddio geiriau.

“Cael y neges drosodd oedd bwysicaf i Elfed. Roedd yn defnyddio iaith y bobol, doedd e ddim yn defnyddio iaith flodeuog, gymhleth. Wrth gyfieithu gweddïau weithiau, rydyn ni’n gweld pobol wedi rhoi cynifer o eiriau at ei gilydd, dy’n nhw ddim yn gwneud dim synnwyr yn y diwedd. Roedd yna ryw symlrwydd. Roedd yn siarad gyda phobol yn ei weddïau.”