Fe agorodd Ysgol Gwyddor Filfeddygol gyntaf Cymru yn Aberystwyth ddechrau’r wythnos, gyda rhai elfennau o’r cwrs newydd i gael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae hi’n hwyr glas i Gymru gael Ysgol Filfeddygol – ers cenedlaethau, rydyn ni wedi bod heb un tra mae’r Alban efo dwy, mae yna un yn Iwerddon, a sawl un yn Lloegr,” meddai Robat Idris, cyn-Lywydd Cangen Cymru o Gymdeithas Milfeddygon Prydain, wrth golwg360.