Dyma flas o’r fideos, blogs ac erthyglau sydd wedi’u cyhoeddi gan bobl y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr, ar rwydwaith Bro360 yn ddiweddar…
Dathlu 125 mlwyddiant Pier Bangor
Mae plac arbennig wedi cael ei gyflwyno i Faer Bangor er mwyn dathlu 125 mlwyddiant Pier y Garth. Dylunwyd y plac gan blant Ysgol Hirael, a chafodd ei greu gan Wasanaeth Oedolion Cyngor Gwynedd ar eu peiriant laser arbennig ym Mharc Glynllifon.
Yn ôl y Cynghorydd lleol Huw Wyn Jones ar BangorFelin360, “roedd hi’n bleser ymuno â’r disgyblion a’r staff i nodi’r flwyddyn bwysig a chroesawu Maer y Ddinas i dderbyn y plac pren ganddynt – llongyfarchiadau mawr i bawb oedd yn rhan o’r prosiect pwysig yma.”
Blas o’r Bröydd
Cynefin a Chymuned
Roedd Neuadd Ogwen, Bethesda, yn ganolbwynt i ddiwrnod o sgyrsiau treiddgar Ddydd Sul, wrth i nifer o drigolion yr ardal gasglu ynghyd i rannu eu gwybodaeth a phrofiadau arbennig yn y Dyffryn. Bu sawl sgwrs a darlith drwy gydol y diwrnod – gan gynnwys Menna Baines yn trafod un o arwyr llenyddol y Dyffryn, Caradog Prichard, a Dafydd Fôn yn trafod yr amaethyddiaeth yn ei ddarlith ‘Crefft Gyntaf Dynol Ryw’.
Cafwyd cyfle i fwynhau cynnyrch Siop Ogwen yn ystod y dydd, a chlywed am y gwaith arbennig yn narlith Meleri Davies o Bartneriaeth Ogwen. Ewch i wefan Ogwen360 i weld mwy o luniau, ac i gael gwybodaeth am y teithiau cerdded sydd ar y gweill.
Cynefin a Chymuned
Clwb newydd ‘Ardal Aberystwyth’
Gall grŵp newydd yn Aberystwyth fod o gymorth i drefnwyr digwyddiadau lleol a galluogi mwy o bobol i gydweithio a helpu ei gilydd. Ardal Aberystwyth yw enw’r grŵp, ac fel mae Kerry Ferguson yn sôn ar BroAber360, mae’n “fath gwahanol” o glwb rotari.
Mae’n “gyfle i’r aelodau helpu cymunedau – yn lleol a ledled Cymru, yn ogystal â mwynhau cwmnïaeth a hwyl gyda phobl sydd â’r un meddylfryd, mewn awyrgylch anffurfiol.”
Trefnwyd y digwyddiad cyntaf dros y penwythnos, sef rasys rhedeg Race for Life, ac mae mwy o fanylion am y grŵp ar y wefan fro.
Straeon bro poblogaidd yr wythnos
- Twthill Taclus, gan Osian Wyn Owen ar Caernarfon360
- Drysau Meddygfeydd Bro Pedr yn cau oherwydd Covid, gan Dylan Lewis ar Clonc360
- Clecs Caron gyda Dennis Pugh, gan Mared Jones ar Caron360.