Gyda Boris Johnson a’i griw wedi tanseilio sawl agwedd ar ddemocratiaeth ac yn parhau i fygwth gwneud hynny, mae yna un peth y dylai POB Cymraes a Chymro fod yn gytûn amdano, sef y ffaith warthus fod 26 o esgobion Seisnig yn meddu ar yr hawl i eistedd yn Nhŷ’r Arglwyddi yn San Steffan. Nid eistedd yw’r unig hawl sydd ganddynt, wrth gwrs, ond hefyd hawl i gymryd rhan mewn dadleuon ac i bleidleisio ar fesurau.