“Ein hanthem wedi dod at ddiwedd ei hoes?” gofynna Huw Onllwyn [Golwg 09.09.21].
’Nachi gwestiwn!
Rhestra nifer o bethau sy’n ei boeni am ein hannwyl Anthem.
“Beth yw ystyr ‘Hen wlad fy Nhadau’ i rywun sydd â gwreiddiau teuluol yn yr Alban; ydy’n Hanthem yn eu helpu i deimlo’n rhan o’n teulu Cymreig?”
Wel Huw, fel rhywun sydd â gwreiddiau teuluol ym Myrmingham a Dyfnant: ydy.
Gofynna hefyd: “Os treisiodd y gelyn fy ngwlad dan ei draed; pwy yw’r gelyn?”