Fel lot o bobl, fi’n siwr, ro’n i’n euog o’i gorwneud hi dipyn bach adeg y locdowns. Pan dw i ddim yn ysgrifennu colofnau sy’n denu sylw bois y Pullitzer, dw i yn chware gemau cyfrifiadur ar sianel YouTube. A dyna lle’r oeddwn i adeg y cyfnodau clo yn livestreamio weithiau am bump neu chwe awr y dydd, cwpl o ddyddiau yr wythnos. Ac os edrychwch chi nôl ar y fideos ’na, mwy neu lai fydd na can o ryw IPA wanky wrth fy ymyl am yr holl stream. Wel, turns out ma’ yfed 4 neu 6 (neu 8) cwrw bron â bod pum gwaith yr wythnos yn cael effaith ar gut unrhyw human. Yn enwedig fi.
Felly pan daeth y locdowns i ben, wnes i benderfynnu trio gollwng bach o’r flab cwrw casglais – ac ar yr un pryd wnaeth hyfforddwr personol symud mewn i’r un coridor â swyddfa fi. Roedd e fel fath fath o dynged chwyslyd. Felly, dw i wedi bod yn pwmpio haearn efo Rob nawr am cwpl o fisoedd yn ei gym preifat.
Un o’r pethau gorau am hyn yw bod Rob yn gadael i fi wrando ar playlists cerddoriaeth fy hun pan rydyn ni’n ymarfer. Oherwydd hyn mae fe’n cael blast o ‘Rhedeg 2021’ playlist Spotify fi bob sesiwn sy’n mix eithaf eclectic o soundtracks cheesy, hip-hop o’r 90au, ac hefyd sprinkle fach neis o gerddoriaeth Gymraeg.
Mae Rob ei hun yn ffan mawr o hip-hop felly mi’r oedd e’n osym i weld e’n tapio along efo ‘Croeso’ gan Band Pres Llaregub a Mr Phormula – un o ffefrynau bob rhediad wheezy dw i’n gwneud.
“This a banger…what’re they saying?” holodd Rob.
“It’s basically some pretty full-on slagging off the English…”
Roedd gwyneb Rob yn bictiwr cyn iddo fe sylweddoli fy mod i’n cymryd y piss. Ond wedyn daeth cân Gymraeg arall ymlaen – ‘Yma of Hyd’ gan Dafydd Iwan – sydd yn genuinely cân ffantastig i gael ar eich playlist am y moments yna lle chi ar fin rhoi lan ac angen bach o ysbrydoliaeth.
“This is a bit serious but I do like it. I prefer the other one though.”
Wnaeth Rob ddechrau hoffi rhai o’r caneuon Cymraeg o’r playlist cymaint, wnaeth e gipio cwpl ar gyfer ei playlists ei hun. Buase fi byth yn galw fy hun yn influencer, ond mae’n deimlad gwych cerdded heibio’r stiwdio a chlywed e’n gweithio efo cleient arall tra bod Yws Gwynedd yn chwarae yn ei gym. Fydde fe’n deimlad hyd yn oed gwell pan wna i glywed Dafydd Iwan yn slaggo off Maggie Thatcher trwy’r coridoriau, ond efallai bod angen i fi weithio ar hynna dipyn bach mwy. Un dydd, gobeithio.