Mae Gareth Hughes wedi bod yn newyddiadura yng nghanol bwrlwm Bae Caerdydd ers pan gafodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei sefydlu nôl yn 1999.

Ond bellach, wedi blynyddoedd o ohebu ar waith y “creaduriaid od” – fel y mae e’n galw gwleidyddion – mae wedi penderfynu “rhoi’r ffidl yn y to” ac ymddeol yn 79 oed.

O Rhodri Morgan i Mark Drakeford, mae wedi cadw golwg ar bob Prif Weinidog gawson ni yn ystod ei yrfa hir a chyffrous.