Ni’n byw mewn cyfnod aruthrol o od on’d y’n ni? Fi’n timlo weithie fel bo’ fi ’di deffro mewn ffilm apocalyptaidd lle ma’ pawb di mynd yn honco bost. Dyma darodd fi wrth wylio’r brotest yn erbyn y cyfyngiadau wrth gartref Prif Weinidog Cymru yng Nghaerdydd.

Yn bersonol, dw i’n reit awyddus i ddychwelyd at gymaint o ‘normalwydd’ â phosib. Ond dw i’n sicr ddim eisie ca’l fy nefnyddio yn arbrawf covid diweddaraf Llywodraeth Prydain – a dw i ddim yn meddwl bod gwisgo masg yn ormod i ofyn.