Dydi hi’n ddim syndod bod aelodaeth Ffermwyr Ifanc Cymru wedi haneru yn ystod y flwyddyn a hanner ddiwetha’.

Mudiad sy’n dibynnu ar gwrdd wyneb yn wyneb ydi’r CffI – gweithgareddau ymarferol ydi’r rhai mwya’ poblogaidd, lle mae degau o bobol ifanc yn dod at ei gilydd i gwrdd, i gystadlu, i gael hwyl a gwneud drygioni iach (ar y cyfan).