A ddylai S4C ddangos uchafbwyntiau Taith y Llewod? Mewn gwlad sydd ag obsesiwn rygbi, mae diddordeb ymysg y cyhoedd heb os, ond a yw hi er budd y cyhoedd fel petai i ddangos gemau tîm rygbi Prydain ac Iwerddon ar sianel genedlaethol Cymru? Mae’n anodd meddwl am enghraifft arall o dîm Prydain yn cael sylw. Nid yw’r gemau Olympaidd ar gael yn y Gymraeg er enghraifft. Beth yw’r gwahaniaeth?