Arogl cyri a chwrw a chwys. Arogl llyfr newydd. Arogl enwau wedi cael eu llosgi i mewn i freichledau lledr newydd sbon, a da-da rhy ddrud, ac eli haul. Mae yna fand roedd dy dad yn arfer gwrando arnyn nhw ’nôl ym 1977 yn gwneud prawf sain ar y llwyfan, ac uchelseinydd yn rhywle’n chwarae seiniau’r pafiliwn i faes sy’n rhy brysur i wrando.

Dyma adref.