Dechreuodd y cwbl bythefnos yn ôl mewn gwirionedd gyda Pobol y Môr, cyfres am y trigolion diddorol sydd yn byw ac yn gweithio ar yr arfordir. Unig broblem yr ail bennod oedd bod rhai’n fwy diddorol na’i gilydd! Dw i’n amau fod rhywun wedi dweud wrth yr ymchwilwyr fod Stan y dyn cychod o Fiwmares yn siarad mwy o Gymraeg nag yr oedd o mewn gwirionedd, ac o ganlyniad cafodd y bennod ei chario gan Mici y pysgotwr o Langrannog. Nid fod hynny’n beth drwg, roedd o’n gymeriad hynaws a o