Mae prynwyr yn ei chael hi’n anodd prynu eu cartrefi cyntaf wrth i brisiau godi – tra bod y galw am gartrefi yn fwy na’r cyflenwad ohonynt.

Mae sawl rheswm am hyn:

Mae cyfraddau llog isel yn galluogi prynwyr i gael morgeisi mwy. Os gallwch fforddio £1,000 y mis fel morgais, gallech brynu tŷ sydd werth £115k gyda chyfradd llog o 10%. Ond gyda chyfradd llog o 1% (sydd ar gael heddiw) fe allech fforddio tŷ sydd werth £280k.