Ro’n i’n rhoi’r dillad ar y lein ddoe pan glywes i ei ffrindie fe’n cerdded heibo ar y ffordd fach lan i’r mynydd – Joseff a Deio ac Ollie a Rhys. Sefes i tu ôl i un o’r cynfase mawr, ddim moyn cael fy ngweld, a gwrando ar y pethe o’n nhw’n gweud wrth baso. Fi’n starfo’n barod! a O’s rhywun ’di dod â dŵr? ac yna, yn dawelach, llais bach yn gweud wrth baso tŷ ni, Chi’n meddwl dyle ni noco i weld shwt ma Guto? Jest i weud helo?