Mae tŷ Nain ar Rightmove.

Daeth y neges gan ei chwaer yn oriau mân y bore; roedd anhunedd yn arfer teuluol. Eisteddodd Lili i fyny yn ei gwely, ac agor yr ap ar ei ffôn. Y tu allan, cysgai’r byd i gyd, a dim ond ochenaid sŵn car ar lonydd yn torri’r tawelwch bob hyn a hyn. Roedd hi wedi bwrw eto, a Gorffennaf, hyd yn hyn, wedi bod yn siom.

Dyna fo – tŷ Nain. Terraced house in sought after location. Ideal as a rental property or as a first step on the property ladder.