Bydd Euro 2020 yn cael ei gofio fel y twrnament pan ddaeth menywod yn fwy amlwg ar ein sgriniau. Rydyn ni wedi gweld merched ar ein rhaglenni pêl-droed ers talwm wrth gwrs, fyth ers dyddiau Amanda Protheroe-Thomas ar Sgorio. A hynny heb sôn am Frenhines Pêl-droed Cymru, sef Nicky John.

Ond y tro yma, roedd y newid yn amlwg – roedd bob gêm efo menyw yn cyd-sylwebu, yn dadansoddi yn y stiwdio, neu yn cyfrannu ar sgyrsiau radio, podlediadau, a’r cyfryngau cymdeithasol.