Does dim digon o gomedi ar S4C. Ffaith. Buaswn yn croesawu Hyd y Pwrs felly hyd yn oed pe bai hi’r gyfres waethaf yn hanes adloniant, am y rheswm syml ei bod hi’n rhaglen gomedi ar S4C. Yn ffodus, nid dyma’r peth gwaethaf yn hanes adloniant. A dweud y gwir, mae’n eitha’ da!