Y mis yma mae actorion cwmni Arad Goch yn diddanu trigolion ac ymwelwyr Ceredigion, o fan i fan, gyda sioe chwedlau a chân o’r enw Clera Ceredigion. Maen nhw wedi cerdded y prom yn Aberystwyth ac ar hyd y wal yn y Borth, wedi crwydro bob cwr o Benparcau, a dawnsio rhwng y gwylanod ar y cei yn Aberaeron. Aeth Golwg i sgwrsio gyda dau o’r cast am y profiad o anterliwtio drwy’r sir, cyn iddyn nhw deithio i’r de, i ardal Cenarth a Chei Newydd…