Ers degawd a mwy mae Kiri Pritchard-McLean yn wyneb cyfarwydd ym myd comedi, wedi ymddangos yng Ngŵyl Caeredin, ennill sawl gwobr, a theithio’r wlad yn perfformio.

Nawr mae ganddi bodlediad newydd sy’n trafod steil gyda neb llai na Jonathan Ross.

Cafodd Kiri ei geni yng Nghaerloyw, cyn symud i Lanbedrgoch ar Ynys Môn yn wyth mis oed. O’r fan honno, bu’n astudio yn Salford, Manceinion, cyn dechrau ar yrfa yn cyfarwyddo, ysgrifennu a pherfformio comedi.