Cyhoeddwyd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn yn ddiweddar. Dw i heb ddarllen yr un o’r llyfrau sydd arni. Mae fy awydd i ddarllen llyfrau’n para rhyw 6 mis, lle dwi’n darllen yn wyllt, cyn lleddfu am ryw 3-4 mlynedd wedi hynny. Llyfrau ffeithiol Saesneg, a llenyddiaeth Gymraeg ydi’r drefn gen i. A thaswn i’n onest, mae’n well gen i’r cyntaf. Achos – a dyma’i dweud hi – dydi llenyddiaeth Gymraeg ddim hanner cystal ag yr ydan ni’n wneud allan ei bod hi.