Maen nhw wedi bod wrthi unwaith eto. Y Prydeinwyr eithafol sy’n methu’n lân a derbyn y ffaith ddiymwad bod bryntni a chreulondeb ofnadwy yn rhan o hanes eu gwladwriaeth.

Yn wylofain ac yn sgyrnygu yn y papurau newydd ac ar y cyfryngau cymdeithasol am fod rhai o bobloedd y ddaear yma wedi bod yn ddigon hyf i dynnu sylw at orffennol gwaedlyd didostur yr Ymerodraeth Brydeinig.