YN FYW: Clera Ceredigion
Mae taith Clera Ceredigion wedi cychwyn ac ar y ffordd i bentrefi a threfi o amgylch y sir. Drwy ddefnyddio chwedlau a hanesion lleol ochr yn ochr â storïau diweddar a newyddion cyfredol, mae’r theatr ‘gudd’ neu ‘pop-up’ hon yn dathlu ein hetifeddiaeth, yn ogystal â dod â phobl yn ôl at ei gilydd ar ôl cyfnodau ynysig y clo.
Drwy gydweithio gyda’r bardd Eurig Salisbury a’r coreograffydd Anna ap Robert, mae’r actorion yn creu perfformiadau dawns a chân unigryw i gymunedau Ceredigion. Yn ôl Jeremy Turner, y Cyfarwyddwr Artistig: “Mae hwn yn gyfle gwych i feddwl mewn ffyrdd gwahanol am sut i greu a pherfformio ac i ailddarganfod hanfodion theatr yn ei ffurf fwyaf amrwd – ychydig o berfformwyr, ychydig o gynulleidfa a dim technoleg.”
Mae’r cynhyrchiad eisioes wedi bod yn Aberystwyth, ond ble fydd y lleoliad nesaf? A phryd? Ewch ar BroAber360 i ddilyn taith cwmni theatr Arad Goch mewn blog byw.
YN FYW: Clera Ceredigion
Ysgolion Arfon yn Canu Dros Gymru
Bu disgyblion ysgolion Arfon yn brysur yn yr wythnos ddiwethaf yn canu’r anthem cyn y gêm fawr yn erbyn Denmarc ddydd Sadwrn. Cymdeithas Bêl-droed Cymru oedd wedi gofyn i ysgolion ledled Cymru wneud fideos o’r disgyblion yn canu ‘Hen Wlad fy Nhadau’ er mwyn eu rhoi at ei gilydd i ddangos i’r chwaraewyr cyn y gêm.
Ymysg yr ysgolion yn Arfon sydd wedi cyhoeddi’u fideos ar Bro360 mae Ysgol Dolbadarn, Ysgol Waunfawr ac Ysgol Gymuned Penisarwaun. Er mai siom oedd canlyniad y gêm, mae’r cyfraniadau yn siwr o godi calon. Cymrwch gip ar wefan Bro360 i glywed y canu!
Y Bont a’r Ewros
Pwy all gredu bod un o eiliadau mwyaf yr Ewros hyd yn hyn wedi digwydd ym Mhontrhydfendigaid?! Daeth anffawd Rhodri Morgans o’r Bont i’r penawdau wedi iddo lithro ar y grisiau yng nghefn tafarn y ‘Red’, a hynny’n fyw ar S4C!
Aeth Arwel Jones draw ato am sgwrs, a dywedodd Rhodri: “Ges i ddim anaf a dwi heb golli unrhyw barch wedi’r digwyddiad” – ac mae wedi cael “cwpwl o beints am ddim gyda’r Red am y cyhoedduswrwydd”! Ewch ar Caron360 i gael gwybod mwy am Rhodri Morgans a’i farn am yr Ewros!
Straeon Bro poblogaidd yr wythnos!
- Mae Twthill yn dwt! gan Osian Wyn Owen ar Caernarfon360
- Pob Lwc Cymru!! gan Ysgol Brynaerau ar DyffrynNantlle360
- Y Bont a’r Ewros gan Arwel Jones ar Caron360