Tybed a oes gennych chi awydd sgrifennu fel Raymond Chandler neu Jo Nesbø? Wel, mae yna gystadleuaeth newydd sy’n rhoi cyfle i chi roi cynnig arni…

Mae’r gydweithfa awduron trosedd, Crime Cymru, wedi cyhoeddi ‘Gwobr Nofel Gyntaf’ Cymraeg a Saesneg i ddarpar nofelwyr sy’n byw yng Nghymru.