Do wir, fe fu yn rhaid i’r hen Fatt Hancock ymddiswyddo yn y diwedd am gael ei ddal ar gamera yn torri ei reolau ymbellhau cymdeithasol ei hun.

Yn y lle cyntaf, fe ddywedodd Boris ei fod yn cefnogi’r Ysgrifennydd Iechyd i’r carn er iddo fod ar dudalen flaen The Sun yn llawer agosach na dau fetr at aelod o’i staff… ond mynd wnaeth Hancock yn y diwedd.

Ond mae yna gwestiynau lu yn aros o hyd, ac mae un ohonyn nhw wedi bod ar wefusau Aelod Seneddol y Rhondda.