Mae yna hen aros wedi bod am albwm cynta’ Pys Melyn, sef project y cerddor talentog Ceiri Humphreys.

Nôl yn 2019 fe welwyd Ceiri, gyda help ei ffrindiau, yn perfformio cân Pys Melyn o’r enw ‘Hosepipe Ban’ ar raglen Curadur S4C.

A rhwng y bîts a’r bas ffynci, y geiriau doniol ar y naw a jesd feib ffynci’r hogiau, fe ddaeth y gân hon yn dipyn o ffefryn ymysg dilynwyr mwya’ pybyr y Sîn Roc Gymraeg.