Mae hi’n byw yng Nghastell Nedd a newydd ryddhau ei chân ‘Ar Ddiwedd Dydd’…

Sut gân yw ‘Ar Ddiwedd Dydd’?

Mae hi fel entry dyddiadur yn ystod y pandemig, ac mae’r geiriau yn sôn am drïo caru ein gilydd trwy gyfnod anodd pan mae pawb yn pryderu.

Bydden i’n disgrifio’r offeryniaeth fel cerddoriaeth gwlad a phop, a’r seren benodol yw’r piano, gyda’r lleisiau yn swnio’n swynol – gobeithio!