Mae Malcolm Allen yn dweud fod ymgyrch ddiweddaraf tîm pêl-droed Cymru yn yr Ewros wedi aildanio’i gariad at bêl-droed…
Mae tîm Rob Page drwodd i rownd yr 16 olaf yn dilyn buddugoliaeth dros Dwrci a gêm gyfartal yn erbyn y Swistir yn Baku. Ac er iddyn nhw golli’r gêm olaf yn erbyn yr Eidal yn Rhufain, roedd pedwar pwynt yn ddigon i sicrhau gêm yn y rownd nesaf yn erbyn Denmarc yn Amsterdam ddydd Sadwrn.
Ac mae disgwyl gêm galed yn erbyn y Daniaid wedi iddyn nhw ddymchwel Rwsia 4-1 er mwyn mynd drwodd nos Lun.
Ond mae Malcolm Allen yn galw ar gefnogwyr Cymru i gadw’r ffydd.
“Pwy a ŵyr, mae gynnon ni ryw awyrgylch, ysbryd sbesial yn ôl ar ôl y cyfnodau clo yma i gyd,” meddai cyn-ymosodwr Cymru, Newcastle, Watford a Norwich, sydd wedi ei wefreiddio gan berfformiadau diweddaraf ei wlad ar y cae pêl-droed.
“Ro’n i wedi colli cariad efo’r gêm dipyn bach ac wedyn mi wnaeth y VAR ddod a wnaeth o bron dorri ’nghalon i. Ond mae hyn jyst wedi digwydd efo Cymru rŵan. Mae o’n medru dod â’r cariad yn ôl, a dw i’n cofio pam dw i mewn cymaint o gariad efo pêl-droed mwy na dim byd yn y bywyd yma. Mae o yn fy ngwaed i. Os fyswn i ddim yn sylwebu neu’n eistedd yn y stiwdio, fyswn i’n gefnogwr yn yr eisteddle.”
Yn wir, mae’n teimlo bod hynny o’r Wal Goch sydd wedi gallu teithio i brifddinasoedd Azerbaijan a’r Eidal wedi helpu’r garfan, er bod yr amgylchiadau’n wahanol iawn i’r hyn oedden nhw bum mlynedd yn ôl yn ystod yr haf euraid yn Ffrainc, pan wnaeth y Wal Goch gyfan wthio’r tîm yr holl ffordd i’r rownd gyn-derfynol. Ond fydd y Wal Goch ddim yno yn Amsterdam.
“Dw i’n canmol y rhai sydd wedi bod, ond dydi’r Wal Goch ddim yna ac maen nhw mor ysbrydoledig, fasa’ nhw’n ddyn ychwanegol. Mae’r anthem yn dod ar amserau pwysig, sy’n mynd i droi’r gêm weithiau. Mae’r chwaraewyr yn ei glywed o, maen nhw efo owns mwy o egni, ac maen nhw’n meddwl sgynnon nhw ddim byd ar ôl yn eu cyrff i’w roi, ond maen nhw’n ffeindio rhywbeth arall, ryw gêr gwahanol.”
Dylanwad y Rheolwr Dros Dro
Mae Malcolm Allen yn teimlo bod yr ymgyrch hon “wedi tanio rhywbeth” a bod y garfan yn dechrau magu coesau o dan arweiniad Rob Page. Ond beth sy’n gwneud y rheolwr dros dro yn arweinydd mor ysbrydoledig?
“Mae o’n ddyn emosiynol,” meddai Malcolm Allen, “wnaeth o agor allan dipyn bach am y tro cynta’ ar ôl y gêm yn erbyn Twrci. Roedd o’n grêt gweld. Dw i’n ’nabod o fatha dyn ac mae o’n ddyn gonest ac mae o’n ddyn fasa’ chdi’n ei drystio ac mae o wedi rhoi hynny drosodd i’r chwaraewyr i gyd. Maen nhw wedi bondio efo’r trust a’r dibynnu ar ei gilydd fel ffrindiau ac wedyn mae’r chwaraewyr wedi dod allan o’r berthynas rhyngddyn nhw ac mae o mor, mor neis. Mae o mor gryf ag oedd o yn 2016, coelia fi.
“Dw i’n ’nabod Rob ers pan oedd o’n ddeuddeg oed, yn fachgen ifanc yn dod i Watford. Roedd Rob Page ei hun yn chwaraewr penderfynol a styfnig fel amddiffynnwr ac yn gapten ar bump allan o’r chwech o glybiau oedd o ynddyn nhw. Roedd o’n arweinydd. Dyna’r ofn oedd gen i yn mynd drosodd i’r ymgyrch yma oedd efallai doedd gynnon ni ddim cymaint o arweinwyr. Roeddan ni wedi gweld – a dim diffyg parch i Gareth Bale, Aaron Ramsey, Ben Davies, Joe Allen, y sêr os ti’n licio – ond doeddan nhw erioed wedi taro fi fel arweinwyr. Un peth sydd wedi dylanwadu a chreu’r argraff fwyaf arnaf fi ydi y ffordd mae’r unigolion yna wedi camu i fyny ac wedi cymryd y chwaraewyr eraill o dan eu wings, os ti’n licio, a’r ffordd maen nhw wedi datblygu wrth godi lefel eu gêm.”
Gareth Bale ac Aaron Ramsey ‘ar yr un donfedd’
Ar wahân i’r rheolwr, mae gan Gymru ddau arf sylweddol ym mlaen y cae yn Gareth Bale ac Aaron Ramsey, ac mae’r berthynas rhyngddyn nhw yn dwyn ffrwyth nid yn unig iddyn nhw ond wrth fagu hyder y garfan gyfan.
“Roedd hi’n bwysig fod y sêr ar eu gorau yn y gemau [grŵp],” meddai Malcolm Allen.
“Rydan ni wedi cael gemau lle rydan ni wedi cael mwy nag un fflach ganddyn nhw, [er enghraifft] yng ngêm y Swistir. Roeddan nhw’n safonol, chwaraewyr gorau’r byd.
“Yn erbyn Twrci, Gareth Bale ar yr un un donfedd ag Aaron Ramsey, a be’ mae hynna’n gwneud ydi codi nid jyst yr hyder a’r momentwm ond mae’n codi lefel y chwaraewyr ifainc yn bendant.
“Dw i’n cofio ni’n cael o ar ôl gêm Rwsia yn ôl yn 2016 a wnes i deimlo yr adeg hynny yr emosiwn yma’n dod drosof fi: ‘Hei, mae’r rhain yn rili tyfu mewn i’w sgidiau ac yn dechrau llenwi’u potensial’.
“Wrth gwrs, rydan ni’n dal ar y daith ar y funud. Ond mae magu hyder yn un peth, cael momentwm yn beth arall, ond mae’n magu cymeriadau cry’, mae’n magu arweinwyr, chwaraewyr sydd yn mynd i fod yn arweinwyr yn y blynyddoedd i ddod hefyd.
“Yn y dyfodol, bydd Cymru’n edrych yn dda. Ti’n gwybod mai’r grŵp ifanc yma fydd yn mynd i gystadleuaeth Cwpan y Byd a’r Ewros nesa’. Mae’r agwedd benderfynol, styfnig ‘Dydan ni ddim am roi dim byd i ffwrdd ac rydan ni’n mynd i guro gemau’ gynnon ni rŵan ac mae hynna’n mynd i gadw ni mewn sefyllfa sefydlog am flynyddoedd i ddod, sy’n grêt gweld. Felly mae o wedi bod yn agoriad llygad mawr.”
Mynd i Amsterdam… ac i Wembley?
Ond un gêm ar y tro fydd hi i Gymru o hyn allan yn y gystadleuaeth sy’n gorffen gyda’r ffeinal ar 11 Gorffennaf.
“Os ydan ni’n mynd drwodd, dydan ni ddim yn Wembley tan y gêm gyn-derfynol,” eglura Malcolm Allen.
“20,000 yn Wembley, efallai fysa pobol yn edrych i ymddeol ar ôl hynna! Dim fi, ond dw i’n siŵr fysa rhai pobol yn ddigon hapus i ymddeol ar ôl gwylio Cymru’n chwarae yn Wembley yn ffeinal yr Ewros!”
Gêm ddigon anodd yn erbyn Denmarc sy’n wynebu’r Cymry ddydd Sadwrn, gyda’r Daniaid wedi dod drwy’r drin ar ôl i Christian Eriksen orfod cael ei adfywio ar y cae yn Copenhagen. O drechu’r Daniaid, gallai tîm Rob Page orfod teithio i Baku ar gyfer rownd yr wyth olaf ar 3 Gorffennaf.
Cerdyn coch Ampadu
Un dyn fydd yn methu chwarae yn Amsterdam yw Ethan Ampadu, a gafodd ei ddewis yn y tîm i herio’r Eidal wrth i’r rheolwr gadw rhai o’i brif chwaraewyr yn ôl gan lygadu’r rownd nesaf. Cafodd yr amddiffynnwr gerdyn coch am sathru ar droed yr Eidalwr Federico Bernardeschi ac mae dwy ffordd o edrych ar y drosedd a’r gosb, yn ôl Malcolm Allen, sy’n dweud mai “cadw’r sgôr i lawr” oedd nod y tîm erbyn iddyn nhw fynd i lawr i ddeg dyn.
“Os wyt ti’n mynd yn ôl y rheolau, mae’n gorfod mynd,” meddai Malcolm Allen am y penderfyniad i hel Ampadu – sy’n 20 oed – o’r cae.
“Mae’n gerdyn coch. Tasa’ chdi’n edrych arno fo yn ôl synnwyr cyffredin, mae o’n chwaraewr ifanc, ond doedd y dyfarnwr ddim yn gwybod hynny. Doedd y dyfarnwr ddim yn ’nabod o, ddim yn gwybod amdano fo felly. Mae’n rhaid bod rhywun i fyny yn yr eisteddle’n asesu [y dyfarnwr], mae’n rhaid iddo fo ddilyn y rheolau. Tasa’ fi’n ddyfarnwr, fasa’ fi wedi’i dynnu fo i un ochr a dweud: ‘Hei, c’mon, ti’n well na hynna!’ Tydi o ddim yn chwaraewr blêr, dydi o erioed wedi gwneud tacl fel’na yn ei fywyd. Roedd o wedi mynd i mewn yn hongian ei draed.
“Yn fwy na dim byd, rhwystredigaeth oedd o [gan Ampadu]. Doedd pethau ddim yn mynd yn grêt iddo fo yn y gêm, doedd o ddim wedi cael llawer o gyffyrddiadau, roedd o’n cael camu i mewn i ganol cae bob hyn a hyn ond dim llawer o ddim byd yn plesio, os ti’n licio… rydan ni’n gwybod sut safonau Ethan yn medru bod. Naïf, dal i ymestyn a dangos ei styds a dilyn drwodd efo’r goes…
“Ond dw i ddim yn rhoi’r holl fai ar Ethan, mae o jyst wedi camamseru fo, mae o wedi mynd yn hwyr. Dydi o ddim wedi gwneud dim byd yn bwrpasol ond mae o wedi dilyn drwodd efo’r dacl lle gafodd o amser i dynnu’i hun ’nôl. Gafodd o amser i dynnu’i droed o ’na. Mae o’n bechod a dw i’n gobeithio dydi’r gystadleuaeth ddim ar ben iddo fo.”
Meiddio breuddwydio eto?
A gobeithio’n wir na fydd y gystadleuaeth ar ben i Gymru yn Amsterdam. Ond allwn ni freuddwydio am haf euraid arall, ym marn Malcolm Allen?
“Yn sicr, dylen ni freuddwydio,” meddai’r sylwebydd praff.
“Cyn 2016, roeddet ti ond yn darllen ac yn gweld lluniau am hanes. Ond mae gan yr hogiau yma’r siawns i greu eu hanes eu hunain rŵan. Mae hi jyst yn grêt gweld. Dydan nhw erioed wedi bod yng nghysgod y garfan yn 2016, dydyn nhw ddim wedi teimlo fel’na. Dydi o ddim yn iawn bo ni’n cymharu.
“Dw i wedi ffeindio allan, a dw i’n siŵr fod y Cymry i gyd wedi ffeindio allan, sut ddynion ydi’r chwaraewyr yma oherwydd y ffordd maen nhw’n torchi llewys i’w gilydd. Dylen ni freuddwydio’n bendant, ond hel atgofion ydi’r peth pwysica’.
“Os fasa’ chdi wedi cynnig hyn i ni ar y cychwyn, fasa’ fi wedi llyfu dy law di oherwydd, yn mynd i mewn i’r ymgyrch yma, roedden ni efo mwy o obeithion na disgwyliadau.”