Mae edrych ymlaen yn bwysicach nag edrych yn ôl. Dyna’r hyn a glywir yn gyffredin. Ond er mwyn canfod y rhesymau am lawer o’n problemau yng Nghymru heddiw, rhaid edrych yn ôl a dysgu, gobeithio, o wneud hynny.

Un o brif broblemau’r presennol yw’r argyfwng tai, o ran eu prinder a’u prisiau.

Ac mae un rheswm, efallai’r prif reswm, am hynny i’w ganfod yn y gorffennol, a chyfnod teyrnasiad maith y Torïaid dan arweiniad Margaret Thatcher yn dilyn etholiadau 1979, 1983 ac 1987.