Euros Lyn, y Cymro Cymraeg 50 oed, yw Cyfarwyddwr y ffilm Dream Horse sy’n cynnwys y sêr byd enwog Toni Collette a Damian Lewis yn actio criw o Gymry cyffredin wnaeth greu syndicet i brynu ceffyl rasio… 

Sut ffilm yw Dream Horse?

Mae hi’n stori dylwyth teg am geffyl gath ei fagu ar randir, aeth ymlaen i fod yn bencampwr anhygoel… pan enillodd [y ceffyl] Dream Alliance [Grand National Cymru] yn 2009.