Cafodd dyddiad cyhoeddi Resistance, ei nofel graffeg hi a’r arlunydd Kathryn Briggs, ei ohirio o fis Mai y llynedd tan fis Mai eleni. Stori yw hi am 50,000 o bobol sy’n mynd i ŵyl ac yn dal rhyw haint, sydd yn ei dro yn tanio epidemig ac yn troi’r byd yn lle tywyll heb wrthfiotigau a chyda’r llawdriniaeth symlaf yn ormod o risg.