Yn canu’r delyn ers degawdau, mae Bethan Nia ar fin cyhoeddi ei halbwm gyntaf.

Mae Ffiniau yn gyfuniad hyfryd o hen alawon gwerin gyda thro ffynci yn eu cynffon, a chaneuon gwreiddiol Bethan ei hun sy’n swnio nid yn annhebyg i rai o draciau Kate Bush, Barbara Streisand a Florence and the Machine.

Yn gantores fedrus gyda llais canu hyfryd, chwarae’r delyn yw bara menyn y fam o Bontypridd.