Bu Non Tudur yn gwrando ar rai o sesiynau gŵyl ddigidol Y Gelli 2021 eleni…

Ni ddylai NATO fod wedi ymyrryd yn Affganistan – dyna farn arbenigwr ar ryfeloedd a fu’n sgwrsio yng Ngŵyl y Gelli’r wythnos ddiwethaf.

Roedd yr Athro Margaret McMillan o Brifysgol Rhydychen yn trafod ei llyfr War: How Conflict Shaped Us mewn sgwrs ar-lein gyda’r gohebydd Nik Gowing.