Mae athrawes gerdd o Fetws Gwerfyl Goch wedi arfer ei doniau i helpu pobl sy’n galaru am rywun annwyl…

Rai misoedd cyn i covid ddod ar ein cyfyl, fe gollodd Elin Angharad Davies ei mam yn greulon o sydyn, ar ôl iddi gael trawiad wrth yrru adref ar ôl dod ag anrhegion Nadolig i’r teulu.

Roedd hi’n ergyd drom iawn, a hithau wedi colli ei thad i salwch ychydig flynyddoedd ynghynt. Yna daeth rheolau llym yr haint i rwystro pobol i ddod i’r tŷ i gydymdeimlo â’r teulu yn eu galar.