Mae’r actor ifanc Steffan Cennydd o Gaerfyrddin yn chwarae’r brif ran yn nrama nos Sul newydd S4C, sydd wedi cael ei ffilmio yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.

Yma mae’n sôn am y wefr o ffilmio yn un o sefydliadau eiconig Cymru…

Mi allai trywydd bywyd Steffan Cennydd fod yn wahanol iawn petai wedi mynd i’r brifysgol i astudio Gwleidyddiaeth ac Economeg fel roedd o wedi bwriadu gwneud.