Yn fam i Ianto, Twm a Nel, mae Manon Wyn James yn byw yn Nhregaron gyda Gwion y gŵr…

Beth yw Cysylltiadau Cyhoeddus, neu PR [Public Relations]?

Mae e’n derm mae lot o bobol yn ddefnyddio, ond siŵr o fod dyw lot o bobol ddim cweit yn deall beth yw e.

Fydden i’n dweud mai Cysylltiadau Cyhoeddus yw’r berthynas yna rhwng y cyhoedd a’r sefydliad neu gwmni.

Mae yn golygu cyflwyno negeseuon mewn modd eitha’ crefftus, i ddenu sylw positif.