Roedd yna gêm yr oeddan ni’n arfer ei chwarae’n fechgyn, efo cyllell boced.

Mi fyddai dau ohonon ni’n wynebu’i gilydd ac un yn taflu’r gyllell i’r ddaear wrth ochr y llall. Os oedd hi’n sticio, roedd rhaid i’r llall estyn un goes ati a sefyll felly.

Tro’r nesa’ oedd hi wedyn a’r gêm yn para nes bod un o’r ddau yn methu ag ymestyn ymhellach.

Ond, weithiau, mi fyddai un bachgen yn trio gwneud gormod, yn taflu’r gyllell yn rhy bell a honno’n methu â sticio. Fo oedd yn colli wedyn.