Fe fydd rhai ohonoch wedi mwynhau’r pleser pur o fy ngwylio ar Am Dro, yn cystadlu yn erbyn cerddwyr eraill er mwyn arwain y daith gerdded orau bosib tra hefyd yn cyflwyno picnic anhygoel.

Un o fy nghyd-gerddwyr oedd Jason Wayne Parry o Gaernarfon. Boi gwych iawn, sydd wrth ei fodd yn gofalu am ei gynefin, ac yntau yn gynghorydd sir. Cymaint yw fy mharch ato, bu’n rhaid i mi ei gredu wedi iddo argymell ffilm o’r enw The Way.