Mae yna rywbeth ynglŷn â phortreadau Carl Melegari sy’n eich atgoffa o gerfluniau a phaentiadau crefyddol y Dadeni Dysg yn yr Eidal.

Ac mae’r artist o Ddinbych – sy’n byw ym Mryste ers tro byd – yn cydnabod dylanwad y grefydd Gatholig ar ei waith, a bod ei rieni yn frodorion o’r Eidal.

Roedd ei dad wedi dod i Sir Ddinbych yn garcharor rhyfel, a bu’r teulu yn ffermio o fan i fan cyn iddo fynd i weithio i’r byd adeiladu.