Fedra i’m cynnig barn ar ddiweddglo Line of Duty i chi achos dw i’n sgwennu fy ngholofn cyn iddo gael ei ddarlledu. Mi allwn ddweud ei bod hi’n argoeli’n dda, ond mae cymaint o gyfresi yn suddo yn ymyl y lan, dw i ddim am jansio dweud dim.
Ro’n i’n meddwl mai cael ei boddi yn ymyl y lan wnaeth Viewpoint (ITV) yn sgil y cyhuddiadau yn erbyn Noel Clarke (mae’n anodd gweld sut y gallai ITV fod wedi darlledu’r bennod wedyn) ond ar ôl ffrydio’r bennod neithiwr, mi suddodd ohoni’i hun. Nid bai’r stori oedd hyn, achos roedd hi’n cynnig safbwynt gwahanol a ffres efo toreth o ddrwgdeimlad a chyfrinachau i’n diddanu, ond yn hytrach oherwydd y sgript. Roedd y bennod olaf yn gyfres o gymeriadau yn disgrifio digwyddiadau, cyfaddef camweddau neu esbonio’u hymddygiad, ribidirês, ac roedd hynny’n rhoi argraff undonog er gwaethaf ymdrechion canmoladwy Ashley Way, y Cyfarwyddwr, i amrywio pethau.
Yn anffodus hefyd, o ystyried mai siarad oedd prif gynnwys y bennod olaf, ro’n i’n cael cryn drafferth dilyn y ddeialog ar brydiau gyda chymaint ohoni’n digwydd mewn tywyllwch (a dim is-deitlau ar ITV Hub). Serch hynny, roedd y cyfarwyddo’n benigamp gydol y gyfres o ran creu tensiwn a’n tynnu i mewn i’r fflat yna gydag Alex Roach. Llwyddodd i ddangos y manion yr oedd y tîm surveillance yn eu gweld ac, yn gelfydd a chynnil iawn, llwyddodd i roi pellter rhyngom ni â’r bobl oedd yn cael eu gwylio, yn union fel roedd y tîm surveillance fod i’w wneud.
Cawsom fwy o sioc wedyn pan chwalwyd yr agosatrwydd rhyngddom ni â’r rhai “gyda ni” yn y fflat. Roedd perfformiad Alex Roach yn ysgubol ac mor braf oedd ei gweld hi yn y rhan yn hytrach nac ‘enwau’ arferol dramâu teledu Lloegr. Ro’n i hefyd yn falch iawn o weld un o fy hoff actorion Cymreig, Ian Puleston-Davies o’r Fflint, yn rhoi perfformiad ardderchog (fel arfer) er mai rhan fach oedd ganddo. Os cewch chi gyfle i’w gwylio byth, mae o yn ffantastig fel y prif gymeriad yn yr hen gyfres BBC Three, Funland (wedi’i gosod yn Blackpool). Mae‘n werth chwilota hefyd am ei gyfres Conviction (BBC Three eto) a’i berfformiad yn Vincent (efo Ray Winstone). Dydy o ddim yn cael chwarter digon o sylw nac o waith yn fy marn i achos mae o’n sgwennwr da iawn hefyd – fo ysgrifennodd Dirty Filthy Love (ITV) a enillodd wobr y ddrama sengl orau gan yr RTS yn 2005, gyda Michael Sheen yn chwarae’r brif ran.
Cyfres annwyl am berthyn
Dw i wedi bod yn cael dipyn o Israeli-ffest yr wythnos hon, yn dal i fyny (o’r diwedd) â Shtisel (Netflix), hanes teulu o Iddewon Haredi (ultra-orthodox) yn byw yn ardal Geula yn Jeriwsalem, sydd yn llai llym ei reolau nag ardal gyfagos Mea’Sharim (meddai Hi, ar ôl bod â’i thrwyn yn Wicipedia ers wythnos). Dw i wedi dysgu lot am raniadau o fewn Israel, o fewn Jeriwsalem ac o fewn y ffydd Iddewig yr wythnos hon, ond all rhywun o’r tu allan fel fi byth obeithio deall sefyllfaoedd mor gymhleth ar ryw olwg fras arwynebol. Wedyn plîs maddeuwch imi os ydw i’n anghywir am rywbeth neu’n sillafu rhywbeth yn anghywir – dw i wedi gweld sawl sillafiad gwahanol o ‘haredi’ er enghraifft.
Does dim pethau mawr yn digwydd yn Shtisel – jest pobl yn byw eu bywydau, yn magu plant, ffeindio priod ac ati. Ond mae’r cymeriadau mor hoffus a’r lleoliad a’r sefyllfa mor ddiarth ac mor ddiddorol, does dim ots gen i. Pan ddechreuais i weithio ar Belonging yn y BBC, wrth esbonio hanfod y gyfres imi, mi ddywedodd Sophie Francis, y cynhyrchydd: “We don’t have rapes or murders. Ceri might cut her finger, and we will care, because it’s Ceri’s finger”, ac mae hyn yn wir iawn am Shtisel hefyd. Mae’n gyfres annwyl, gynnes a theimladwy’n aml, a dw i hanner ffordd drwy’r ail gyfres erbyn hyn ac yn dal i fwynhau. Cafodd llawer o’r gyfres gyntaf ei ffilmio yn ddirgel ar strydoedd ardaloedd haredi Jeriwsalem, cymunedau lle does dim croeso i deledu nac i’r We. Dw i ddim yn siŵr ynghylch moesoldeb hynny, ond mae o’n rhoi golwg authentic iawn i’r gyfres yn ddiau.
Roedd yn ddiddorol gweld Shira Haas ar ddechrau’i gyrfa yn Shtisel, ar ôl ei gweld yn chwarae’r brif ran yn Unorthodox (Netflix), dro yn ôl. Dw i’n meddwl bod angen gwylio honno ochr yn ochr â Shtisel i gael darlun llawn achos mae’n dangos byw bywyd ultra-orthodox o safbwynt arall. Stori wir yw Unorthodox, yn seiliedig ar hanes merch ifanc yn ffoi cymdeithas haredi yn ardal Williamsburg, Efrog Newydd. Mae’r wigiau sydd mor hawdd eu diystyru yn Shtisel, yn symbolau gormes yn Unorthodox.
Fel y dangosodd Viewpoint a’r amgylchiadau o’i gwmpas, dydan ni ddim wastad yn deall beth rydan ni’n ei wylio, o’r tu allan.